Ar ddechrau ein taith ydym ni fel teulu Emaus, ac felly prin yw’r deunydd ar y wefan ar hyn o bryd. Ond ers cychwyn y cyfnod clo buom fel criw Coleg am 6 yn cyfarfod yn rheolaidd dros Zoom, yn cadw cyswllt trwy grŵp WhattsApp ac hefyd yn darlledu gwasanaethau nosweithiau Sul ar Facebook a YouTube. Mae modd i chi wylio’r gwasanaethau hynny yma – Sianel YouTube Coleg am 6
Gobeithio y byddwn fel Teulu Emaus yn gallu cyfarfod wyneb yn wyneb yn fuan iawn, â’r wefan hon wedyn yn adnodd i rannu newyddion, gwasanaethau, deunyddiau ac ati. Dewch heibio yn rheolaidd i weld be sy’n newydd arni!